Rydym yn falch bod y Gweinidog wedi ceisio darparu mwy o wybodaeth am ei fwriadau o ran amnewid darpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru adran 79. Rydym yn falch o weld diwygiad drafft sy’n gyson â’n hargymhelliad ym mharagraff 15.

 

Fodd bynnag, mewn perthynas â’r materion a godasom yn ein sylwadau blaenorol, rydym yn barnu nad yw’r Gweinidog wedi mynd i’r afael â’r pwyntiau yn ein sylwadau blaenorol a’n hargymhellion 16, 18, 19 ac 20.

 

Yn benodol, rydym yn dal i farnu y dylai’r Llywodraeth ymrwymo i fwy o ddiwygiadau i Ddeddf Llywodraeth Cymru er mwyn rhoi sylw i’n pryderon ym mharagraff 14 a’r argymhelliad ym mharagraff 18 mewn perthynas â Deddf Llywodraeth Cymru.

 

Rydym yn argymell yn gryf codi cwestiynau am y diwygiadau eraill hyn gyda’r Gweinidog wrth graffu, er mwyn i unrhyw ymrwymiadau ganddo fod ar gofnod.

 

Mae’r diwygiad drafft yn caniatáu i’r Llywodraeth gyflawni ei dyletswydd o ran datblygu cynaliadwy trwy gyflawni llai na’r hyn sy’n ofynnol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Nid ydym yn meddwl y bydd y diwygiadau fel y’u nodir, yn arbennig yn isadran 3, yn ddigon i gymryd lle darpariaethau pwysig y cynllun presennol yn llawn.

 

Cofion,

 

Anne Meikle

Cadeirydd y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy